A B C D E F G H I J K L M N O P R S T U V W Y Z

New Philadelphia Book Publisher Highlights Local Talent
Book and Publishing News from Publishers Newswire(tm)

Looking for Child to be on Cover of a New Book, 'The Model Child'
PHILADELPHIA, Pa. -- The Philadelphia literary world will celebrate the launch of two new players today, April 10th: Kay Square Press, a new publishing company focused on Philadelphia-area artists, their stories, and their art; and Kay Square's first release, 'With the Rich and Mighty: Emlen Etting of Philadelphia' (ISBN: 978-0-9815129-0-7), a critical biography by Kenneth C. Kaleta.

FlatSigned Press Alleges Don Imus Remarks Damage Legacy of President Gerald R. Ford
NEW YORK, N.Y. -- Nathan Yungerberg, an accomplished model scout and professional child photographer is launching a nation-wide casting call to find the cover model for his highly anticipated book release, 'The Model Child: A Parents Guide to the Child Modeling Industry' (ISBN: 978-0-9817018-0-6).


Books: Yr Hwiangerddi

O >> Owen M. Edwards >> Yr Hwiangerddi

Pages:
1 | 2 | 3


Transcribed by David Price, email ccx074@coventry.ac.uk




YR HWIANGERDDI




RHAGYMADRODD.



Ambell orig daw hen hwiangerdd, fel su melodaidd o gartref pell a
hoff, i'r meddwl. Daw un arall ar ei hol, ac un arall,--a chyda hwy
daw adgofion cyntaf bore oes. Daw'r llais mwynaf a glywsom erioed
i'n clust yn ol, drwy stormydd blynyddoedd maith; daw cof am ddeffro
a sylwi pan oedd popeth yn newydd a rhyfedd. A daw ymholi ond odid.
Beth yw tarddle swyn yr hen gerddi hwian syml hyn? Pa nifer ohonynt
fedraf? Pa nifer sydd ohonynt yn llenyddiaeth Cymru? A ydynt yn
llenyddiaeth? Beth fu eu dylanwad ar fy mywyd? A adawsant ryw nod
ar lenyddiaeth Cymru?

O ble y daethant? Y mae iddynt ddau darddiad. Yn un peth,--y maent
yn adlais o ryw hen bennill genid gyda'r delyn. Cofid y rhannau
mwyaf melodaidd, rhyw seiniau fynnai aros yn y glust, gan fam neu
forwyn, a byddent yn llais i lawenydd y galon wrth suo'r plentyn i
gwsg. A ffynhonnell arall,--yr oedd y fam yn creu cerddi hwian, nid
i wneyd i'r plentyn gysgu, ond i'w gadw'n ddiddig pan ar ddihun. Ac
y mae cof gwlad wedi trysori ymgais y mamau mwyaf athrylithgar.

Ar ei fysedd y sylwa plentyn i ddechreu. Hwy ddefnyddia'r fam yn
deganau cyntaf. Rhoddir enwau arnynt,--Modryb 'y Mawd, Bys yr uwd,
Hirfys, Cwtfys, Bys bach, neu ryw enwau ereill. Gwneir iddynt
chware a'u gilydd; llechant yng nghysgod eu gilydd, siaradant a'u
gilydd; ant gyda'u gilydd i chware, neu i hel gwlan, neu i ladd
defaid i'r mynydd. Yr oedd yr olaf yn fater crogi yr adeg honno, ac
felly yr oedd y chware yn un pur gyffrous. Yr oedd i bob bys
gymeriad hefyd; bys yr uwd oedd y cynlluniwr, yr hirfys oedd y
gweithiwr cryf eofn, y cwtfys oedd y beirniad ofnus, a'r bys bach,
druan, oedd yn gorfod dilyn y lleill neu gario dwr. Yn llenyddiaeth
gyntaf plentyn, y bysedd yw'r actors yn y ddrama.

Wedi'r bysedd, y traed oedd bwysicaf. Eid trwy yr un chware gyda
bysedd y traed drachefn. A difyr iawn oedd pedoli, curo gwadnau'r
traed bob yn ail, a phedoli dan ganu.

Nodwedd bennaf plentyn iach, effro yw, nas gall fod eiliad yn
llonydd. Mae pob gewyn ynddo ar fynd o hyd. Ac y mae mynd yn yr
hen hwiangerddi. Gorchest arwrol gyntaf plentyn yw cael ei
ddawnsio'n wyllt ar y lin. "Gyrru i Gaer" yw anturiaeth fawr gyntaf
dychymyg y rhan fwyaf o blant Cymru. Ac y mae afiaeth mawr i fod ar
y diwedd, i ddynodi rhyw drychineb ysmala,--dod adre wedi priodi,
boddi yn y potes, neu dorri'r pynnaid llestri'n deilchion. Mae'r
coesau a'r breichiau bychain i fynd ar eu gwylltaf, ac y mae edyn
man dychymyg y plentyn yn chware'n wyllt hefyd.

Yr un cerddi hwian, mewn llais distawach, dwysach, a suai y plentyn
i gwsg. Ai'r llong i ffwrdd yn ddistaw, carlamai'r cel bach yn
esmwyth, doi'r nos dros furiau Caer.

A yw'r hwiangerddi'n foddion addysg? Hwy rydd addysg oreu
plentyndod. Am genedlaethau'n ol, ceisid dysgu plant yn yr ysgol o
chwith. Ceisid eu cadw'n llonydd, a hwythau'n llawn awydd symud.
Ceisid eu cadw'n ddistaw, a hwythau'n llawn awydd parablu. Dofi,
distewi, disgyblu oedd o hyd. Erbyn hyn deallir egwyddorion dysgu
plentyn yn well. Gellid rhoddi rhestr hir o athronyddion dysg
plant, a dangos fel y gwelsant, o un i un yn raddol, wir ddull dysgu
plant. A'r dull hwnnw yw,-- dull yr hwiangerddi. Dysgir y plentyn
i astudio'i fysedd. Ca fynd ar drot ac ar garlam yr adeg y mynno.
Ac ymhob cerdd, daw rhyw agwedd darawiadol ar y natur ddynol i'r
golwg. Ei siglo'n brysur ar y glin i swn rhyw hen gerdd hwian,--
dyna faban ar ben gwir Iwybr ei addysg. Ni fyddaf yn credu dim
ddwed yr athronwyr am addysg babanod os na fedrir ei brofi o'r
hwiangerddi. Ynddynt hwy ceir llais greddf mamau'r oesoedd; o
welediad clir cariad y daethant, ac o afiaeth llawenydd iach.

A yw'r cerddi hwian yn llenyddiaeth? Ydynt, yn ddiameu. Y mae
iddynt le mor bwysig mewn llenyddiaeth ag sydd i'r plentyn yn hanes
dyn. Y mae llenyddiaeth cenedl yn dibynnu, i raddau mawr, ar ei
hwiangerddi. Os mynnech ddeall nodweddion cenedl, y dull chwilio
hawddaf a chyrfymaf a sicraf yw hwn,--darllennwch ei cherddi hwian.
Os ydynt yn greulon ac anonest eu hysbryd, yn arw a chras, yn fawlyd
a dichwaeth, rhaid i chwi ddarllen hanes cenedl yn meddu yr un
nodweddion. Os ydynt yn felodaidd a thyner, a'r llawenydd afteithus
yn ddiniwed, cewch genedl a'i llenyddiaeth yn ddiwylledig a'i hanes
yn glir oddiwrth waed gwirion. Nis gall y Cymro beidio bod a chlust
at felodi, wedi clywed y gair "pedoli" bron yn gyntaf un, a hwn yn
gyntaf pennill,--


"Mae gen i ebol melyn,
Yn codi'n bedair oed;
A phedair pedol arian,
O dan ei bedwar troed."


Disgwylir i mi ddweyd, mae'n ddiau gennyf, ymhle y cefais yr holl
gerddi hwian hyn. Gwaith araf oedd eu cael, bum yn eu casglu am
dros ugain mlynedd. Ychydig genir yn yr un ardal, daw y rhai hyn
bron o bob ardal yng Nghymru. Cefais hwy oddiwrth rai ugeiniau o
gyfeillion caredig, yn enwedig pan oeddwn yn olygydd Cymru'r Plant.
A chefais un fantais fawr yng nghwrs fy addysg,--nid oes odid
blentyn yng Nghymru y canwyd mwy o hwiangerddi iddo.

Hyd y gwn i; Ceiriog ddechreuodd gasglu hwiangerddi Cymru, yn yr
Arweinydd, yn 1856 ac 1857. Condemnid y golygydd, Tegai, am
gyhoeddi pethau mor blentynaidd. Ond daeth yr hanesydd dysgedig Ab
Ithel, oedd wedi cyhoeddi'r Gododin ac yn paratoi'r Annales Cambriae
y Brut y Tywysogion i'r wasg, i'w amddiffyn yn bybyr. Cawr o ddyn
oedd Ab Ithel; y mae rhai o wyr galluocaf a mwyaf dysgedig Cymru, yn
ogystal a phlant ysgol, wedi'm helpu innau i wneyd y casgliad hwn.
Cyhoeddwyd casgliad Ceiriog wedi hyn yn "Oriau'r Haf." Nid oes
ynddo ddim o gerddi hwian y De. Cyhoeddodd Cadrawd rai o gerddi
hwian Morgannwg yn ei "History of Llangynwyd Parish" yn 1887. "Yn
ddiweddarach cyhoeddwyd casgliad gyda darluniau prydferth yng
Nghonwy, {0a} a chasgliad gan Cadrawd gyda cherddoriaeth o drefniad
Mr. Harry Evans ym Merthyr Tydfil. {0b}

Nid y lleiaf o arwyddion da am ddyfodol Cymru yw fod yr hen
hwiangerddi swynol hyn i'w clywed eto yn ei chartrefi ac yn ei
hysgolion.

OWEN M. EDWARDS.


I. BACHGEN.


Y Bachgen boch-goch,
A'r bochau brechdan,
A'r bais dew,--
O ble doist ti?


II. YR EBOL MELYN.


Mae gen i ebol melyn,
Yn codi'n bedair ced,
A phedair pedol arian
O dan ei bedwar troed;
Mi neidia ac mi brancia
O dan y feinir wen,
Fe reda ugain milldir
Heb dynnu'r ffrwyn o'i ben.


III. GYRRU I GAER.


Gyrru, gyrru, gyrru i Gaer;
I briodi merch y maer;
Gyrru, gyrru, gyrru adre,
Wedi priodi ers diwrnodie.


IV. I'R FFAIR.


Ar garlam, ar garlam,
I ffair Abergele;
Ar ffrwst, ar ffrwst,
I ffair Lanrwst.


V. DAU GI BACH.


Dau gi bach yn mynd i'r coed,
Dan droi'u fferrau, dan droi'u troed;
Dau gi bach yn dyfod adre,
Blawd ac eisin hyd eu coese.


VI. CERDDED.


Dandi di, dandi do,
Welwch chwi 'i sgidie newydd o?
Ar i fyny, ar i wared,
Bydd y bachgen bach yn cerdded.


VII., VIII. Y CEFFYL BACH.


Ymlaen, geffyl bach,
I'n cario ni'n dau
Dros y mynydd
I hela cnau.

Ymlaen, geffyl bach,
I'n cario ni'n tri
Dros y mynydd
I hela cnu.


IX. SION A SIAN.


Sion a Sian, oddeutu'r tan,
Yn bwyta blawd ac eisin man.


X., XI. MYND I LUNDAIN.


Beti bach a finnau
Yn mynd i Lundain G'lanmai;
Os na chawn ni'r ffordd yn rhydd,
Mi neidiwn dros y cloddiau.

Beti bach a finne,
Yn mynd i Lundain Glame;
Mae dwr y mor yn oer y nos,
Gwell inni aros gartre.


XII. GWLAD BRAF.


Lodes ei mam, a lodes ei thad,
A fentri di gyda fi allan o'r wlad,
Lle mae gwin yn troi melinau,
A chan punt am gysgu'r borau?


XIII. CYSUR LLUNDAIN.


Mi af i Lundain Glamai
Os byddai byw ac iach,
Ni 'rosa i ddim yng Nghymru
I dorri 'nghalon bach;
Mae digon o arian yn Llundain,
A swper gyda'r nos,
A mynd i 'ngwely'n gynnar,
A chodi wyth o'r gloch.


XIV. LLONG YN MYND.


Si hei-li-lwli, 'r babi,
Mae'r llong yn mynd i ffwrdd;
Si hei-li-lwli, 'r babi,
Mae'r capten ar y bwrdd.


XV. DAFAD WEN. {14a}


Chwe dafad gorniog,
A chwe nod arni, {14b}
Ac ar y bryniau garw,
'Roedd rheiny i gyd yn pori;
Dafad wen, wen, wen,
Ie benwen, benwen, benwen;
Ystlys hir a chynffon wen,
Wen, wen.


XVI. IAR FACH DLOS.


Iar fach dlos
Yw fy iar fach i;
Pinc a melyn,
A choch a du.


XVII. GWCW FACH.


Gwcw fach, ond 'twyt ti'n ffolog,
Ffal di ral di rw dw ti rei tei O,
Yn canu 'mhlith yr eithin pigog,
Ffal di ral di rw dw ti rei tei O;
Dos i blwy Dolgellau dirion,
Ffal di ral di rw dw ti rei tei O;
Ti gei lwyn o fedw gwyrddion,
Ffal di ral di rw dw ti rei tei O.


XVIII. LLYGOD A MALWOD.


Llygod man yn chwythu'r tan,
A'r malfod yn gweu melfed.


XIX. I'R DRE.


Gyrru, gyrru, drot i'r dre,
Dwad adre erbyn te.


XX. I GAERDYDD.


Gyrru, gyrru, i Gaerdydd,
Mofyn pwn o lestri pridd;
Gyrru, gyrru'n ol yn glau,
Llestri wedi torri'n ddau.


XXI. Y CEFFYL DU BACH.


Pandy, pandy, melin yn malu,
Gweydd yn gweu a'r ffidil yn canu;
Ceffyl bach du a'r gynffon wen
Yn cario Gwen a Mari.


XXII. I'R FFAIR.


Tomos Jones yn mynd i'r ffair,
Ar gefn ei farch a'i gyfrwy aur;
Ac wrth ddod adre cwyd ei gloch,
Ac yn ei boced afal coch.


XXIII. AR DROT.


'Ar drot, ar drot, i dy Shon Pot,
Ar whil, ar whil, i dy Shon Pil;
Ar garlam, ar garlam, i dy Shon Rolant,
Bob yn gam, bob yn gam, i dy f'ewythr Sam.


XXIV. AR GARLAM.


Iohn bach a finne,
Yn mynd i Lunden Glame;
Ac os na chawn ni'r ffordd yn glir,
Ni neidiwn dros y cloddie.


XXV. Y DDAFAD FELEN. {16}


Croen y ddafad felen,
Yn towlu'i throed allan;
Troed yn ol, a throed ymlaen,
A throed yn towlu allan.


XXVI. CNUL Y BACHGEN COCH.


"Ding dong," medd y gloch,
Canu cnul y bachgen coch;
Os y bachgen coch fu farw,
Ffarwel fydd i'r gwin a'r cwrw.


XXVII. DAU FOCHYN BACH.


Dacw tada'n gyrru'r moch,
Mochyn gwyn, a mochyn coch;
Un yn wyn yn mynd i'r cwt,
A'r llall yn goch a chynffon bwt.


XXVIII. COLLI ESGID.


Dau droed bach yn mynd i'r coed,
Esgid newydd am bob troed;
Dau droed bach yn dwad adre
Wedi colli un o'r 'sgidie.


XXIX. I'R FELIN.


Dau droed bach yn mynd i'r felin,
I gardota blawd ac eithin;
Dau droed bach yn dyfod adra,
Dan drofera, dan drofera.


XXX. IANTO.


Carreg o'r Nant,
Wnaiff Iant;
Carreg o'r to,
Wnaiff o,--
Ianto.


XXXI. DEIO BACH.


Deio bach a minne
Yn mynd i werthu pinne;
Un res, dwy res,
Tair rhes am ddime.


XXXII. Y BYSEDD.


Modryb y fawd,
Bys yr uwd,
Pen y cogwr,
Dic y peipar,
Joli cwt bach.


XXXIII. HOLI'R BYSEDD. {19a}


"Ddoi di i'r mynydd?" meddai'r fawd,
"I beth?" meddai bys yr uwd;
"I hela llwynog" meddai'r hir-fys; {19b}
"Beth os gwel ni?" meddai'r canol-fys;
"Llechu dan lechen" meddai bys bychan.


XXXIV. RHODD. {20}


Buarth, baban, cryman, croes;
Modrwy aur i'r oreu 'i moes.


XXXV., XXXVI. I'R YSGOL.


Mi af i'r ysgol fory,
A'm llyfyr yn fy llaw;
Heibio'r Castell Newydd,
A'r cloc yn taro naw;
Dacw mam yn dyfod,
Ar ben y gamfa wen,
"A rhywbeth yn ei barclod,
A phiser ar ei phen.

Mi af i'r ysgol fory,
A'm llyfyr yn fy llaw,
Heibio'r Sgubor Newydd,
A'r cloc yn taro naw;
O, Mari, Mari, codwch,
Mae heddyw'n fore mwyn,
Mae'r adar bach yn canu,
A'r gog ar frig y llwyn.


XXXVII. LLE DIFYR.


Mi fum yn gweini tymor
Yn ymyl Ty'n y Coed,
A'dyna'r lle difyrraf
Y bum i ynddo 'rioed;
Yr adar bach yn canu,
A'r coed yn suo ynghyd,--
Fy nghalon fach a dorrodd,
Er gwaetha rhain i gyd.


XXXVIII. COLLI BLEW.


Pwsi mew, pwsi mew,
Lle collaist ti dy flew?
"Wrth gario tan
I dy modryb Sian,
Yng nghanol eira a rhew."


XXXIX. BODDI CATH.


Shincin Sion o'r Hengoed
Aeth i foddi cath,
Mewn cwd o lian newydd,
Nad oedd e damed gwaeth;
Y cwd a aeth 'da'r afon,
A'r gath a ddaeth i'r lan,
A Shincin Sion o'r Hengoed
Gas golled yn y fan.


XL. WEL, WEL.


"Wel, wel,"
Ebe ci Jac Snel,
"Rhaid i mi fynd i hel,
Ne glemio."


XLI., XLII. PWSI MEW.


Pwsi meri mew,
Ble collaist ti dy flew?
"Wrth fynd i Lwyn Tew
Ar eira mawr a rhew."

"Pa groeso gest ti yno.
Beth gefaist yn dy ben?"
Ces fara haidd coliog,
A llaeth yr hen gaseg wen."


XLIII. CALANMAI.


Llidiart newydd ar gae ceirch,
A gollwng meirch o'r stablau;
Cywion gwyddau, ac ebol bach,
Bellach ddaw Calanmai.


XLIV.--XLVI. DA.


Mae gen i darw penwyn,
A gwartheg lawer iawn;
A defaid ar y mynydd,
A phedair das o fawn.

Mae gen i gwpwrdd cornel,
A set o lestri te;
A dresser yn y gegin,
A phopeth yn ei le.

Mae gen i drol a cheffyl,
A merlyn bychan twt,
A phump o wartheg tewion,
Yn pori yn y clwt.


XLVII. DACW DY.


Dacw dy, a dacw do,
Dacw efail Sion y go;
Dacw Mali wedi codi,
Dacw Sion a'i freichiau i fyny.


XLVIII. COFIO'R GATH.


Ar y ffordd wrth fynd i Ruthyn,
Gwelais ddyn yn gwerthu brethyn;
Gofynnais iddo faint y llath,
Fod arnaf eisio siwt i'r gath.


XLIX. YSTURMANT. {27a}


(I ddynwared swn ysturmant.)
DWR glan gloew,
Bara chaws a chwrw.


L. YSGUTHAN. {27b}


(I ddynnwared Can Ysguthan.)
Cyrch du, du,
Yn 'y nghwd i.


LI. SIAN.


Sian bach anwyl,
Sian bach i;
Fi pia Sian,
A Sian pia fi.


LII. SIAN A SION.


Pan brioda Sion a minnau,
Fe fydd cyrn ar bennau'r gwyddau;
Ieir y mynydd yn bluf gwynion;
Ceiliog twrci fydd y person.


LIII. SION A SIAN.


Sion a Sian yn mynd i'r farchnad,
Sian yn mynd i brynnu iar,
A Sion i werthu dafad.


LIV. Y CROCHAN.


Rhowch y crochan ar y tan,
A phen y fran i ferwi;
A dau lygad y gath goed,
A phedwar troed y wenci.


LV. UST.


Ust, O taw! Ust, O taw,
Aeth dy fam i Loeger draw;
Hi ddaw adre yn y man,
A llond y cwd o fara cann.


LVI. CYSGU.


Bachgen bach ydi'r bachgen gore,
Gore, gore;
Cysgu'r nos, a chodi'n fore,
Fore, fore.


LVII. FFAFRAETH.


Hen fenyw fach Cydweli
Yn gwerthu losin du;
Yn rhifo deg am geiniog,
Ond un ar ddeg i fi.


LVIII. MERCH EI MAM.


Morfudd fach, ferch ei mham,
Gaiff y gwin a'r bara cann;
Hi gaiff 'falau per o'r berllan,
Ac yfed gwin o'r llester arian.


LIX. MERCH EI THAD.


Morfudd fach, merch ei thad,
Gaiff y wialen fedw'u rhad;
Caiff ei rhwymo wrth bost y gwely
Caiff ei chwipio bore yfory.


LX. COLLED.


Whic a whiw!
Aeth y barcud a'r ciw;
Os na feindwch chwi ato,
Fe aiff ag un eto.


LXI. ANODD COELIO.


Mae gen i hen iar dwrci,
A mil o gywion dani;
Pob un o rheiny yn gymaint ag ych,--
Ond celwydd gwych yw hynny?


LXII. DODWY DA.


Mae gen i iar a cheiliog
A brynnais i ar ddydd Iau;
Mae'r iar yn dodwy wy bob dydd,
A'r ceiliog yn dodwy dau.


LXIII. BYW DETHEU.


Mae gen i iar a cheiliog,
A hwch a mochyn tew;
Rhwng y wraig a finne,
'R ym ni'n eig wneyd hi'n lew.


LXIV. DA.


Mae gen i ebol melyn
A merlen newydd spon,
A thair o wartheg blithion
Yn pori ar y fron;
Mae gen i iar a cheiliog,
Mi cefais er dydd Iau,
Mae'r iar yn dodwy wy bob dydd
A'r ceiliog yn dodwy dau.


LXV. Go-Go-Go!


Shoni Brica Moni
Yn berchen buwch a llo;
A gafar fach, a mochyn,
A cheiliog, go-go-go!


LXVI. CYNFFON.


Mi welais nyth pioden,
Fry, fry, ar ben y goeden,--
A'i chynffon hi mas.


LXVII. TAITH DAU.


Dafi bach a minne,
Yn mynd i Aberdar,
Dafi'n mofyn ceiliog,
A minne'n 'mofyn giar.


LXVIII. YSGWRS.


"Wel," meddai Wil wrth y wal,
Wedodd y wal ddim wrth Wil.


LXIX. HOFF BETHAU.


Mae'n dda gan hen wr uwd a lla'th
Mae'n dda gan gath lygoden;
Mae'n dda gan 'radwr flaen ar swch,
Mae'n dda gan hwch y fesen.


LXX. CLOC.


Mae gen i, ac mae gen lawer,
Gloc ar y mur i gadw amser;
Mae gan Moses, Pant y Meusydd,
Gloc ar y mur i gadw'r tywydd.


LXXI. DWY FRESYCHEN.


Mi welais ddwy gabetsen,
Yn uwch na chlochdy Llunden;
A deunaw gwr yn hollti 'rhain,
A phedair cainc ar hugain.


LXXII. TOI A GWAU.


Mi welais i beth na welodd pawb,--
Y cwd a'r blawd yn cerdded;
Y fran yn toi ar ben y ty,
A'r malwod yn gwau melfed.


LXXIII. MALWOD A MILGWN.


Mi welais innau falwen goch,
A dwy gloch wrth ei chlustiau;
A dau faen melin ar ei chefn,
Yn curo'r milgwn gorau.


LXXIV. GWENNOL FEDRUS.


Do, mi welais innau wennol,
Ar y traeth yn gosod pedol;
Ac yn curo hoel mewn diwrnod,--
Dyna un o'r saith rhyfeddod.


LXXV. LLYNCU DEWR.


Mi weles beth na welodd pawb,--
Y cwd a'r blawd yn cerdded,
Y fran yn toi ar ben y ty,
A'r gwr mor hy a hedeg;
A hogyn bach, dim mwy na mi,
Yn Ilyncu tri dyniawed.


LXXVI., LXXVII. Y DDAFAD YN Y BALA.


'Roedd gen i ddafad gorniog,
Ac arni bwys o wlan,
Yn pori ar lan yr afon
Ymysg y cerrig man;
Fe aeth yr hwsmon heibio,
Hanosodd arni gi;
Ni welais i byth mo'm dafad,
Ys gwn i a welsoch chwi?

Mi gwelais hi yn y Bala,
Newydd werthu ei gwlan,
Yn eistedd yn ei chadair,
O flaen tanllwyth mawr o dan;
A'i phibell a'i thybaco,
Yn smocio'n abal ffri,
A dyna lle mae y ddafad,--
Gwd morning, Jon, how di!


LXXVIII. IAR Y PENMAEN MAWR.


'Roedd gen i iar yn gorri,
Ar ben y Penmaen Mawr,
Mi eis i droed y Wyddfa
I alw arni i lawr;
Mi hedodd ac mi hedodd,
A'i chywion gyda hi,
I ganol tir y Werddon,--
Good morning, John! How di?


LXXIX. I BLE?


Troi a throsi, troi i ble?
I Abergele i yfed te.


LXXX. MORIO.


Fuost ti erioed yn morio?
"Do, mewn padell ffrio;
Chwythodd y gwynt fi i Eil o Man,
A dyna lle bum i'n crio."


LXXXI. LLONG FY NGHARIAD.


Dacw long yn hwylio'n hwylus,
Heibio'r trwyn, ac at yr ynys;
Os fy nghariad i sydd ynddi,
Hwyliau sidan glas sydd arni.


LXXXII. CWCH BACH.


Cwch bach ar y mor,
A phedwar dyn yn rhwyfo;
A Shami pwdwr wrth y llyw
Yn gwaeddi,--"Dyn a'n helpo."


LXXXIII. GLAN Y MOR.


Mae gen i dy bach del,
O dy bach del, O dy bach del,
A'r gwynt i'r drws bob amser;
Agorwch dipyn o gil y ddor,
O gil y ddor, o gil y ddor,
Cewch weld y mor a'r llongau.


LXXXIV. DWR Y MOR.


Ioan bach a finnau
Yn mynd i ddwr y mor;
Ioan yn codi 'i goesau,
A dweyd fod dwr yn oer.


LXXXV. TRI.


Tri graienyn, tri maen melin,
Tair llong ar for, tri mor, tri mynydd;
A'r tri aderyn a'r traed arian,
Yn tiwnio ymysg y twyni man.


LXXXVI. WEDI DIGIO.


Mae fy nghariad wedi digio,
Nis gwn yn wir pa beth ddaeth iddo;
Pan ddaw'r gwibed bach a chywion,
Gyrraf gyw i godi ei galon.


LXXXVII. CARN FADRYN.


Mi af oddiyma i ben Carn Fadryn,
Er mwyn cael gweled eglwys Nefyn;
O ddeutu hon mae'r plant yn chware,
Lle dymunwn fy mod inne.


LXXXVIII. SIGLO'R CRYD.


Siglo'r cryd a'm troed wrth bobi,
Siglo'r cryd a'm troed wrth olchi;
Siglo'r cryd ymhob hysywaeth,
Siglo'r cryd sy raid i famaeth.


LXXXIX. Y LLEUAD.


Mae nhw'n dwedyd yn Llanrhaiad,
Mai rhyw deiliwr wnaeth y lleuad;
A'r rheswm am fod goleu drwyddo,
Ei fod heb orffen cael ei bwytho.


LXL. COES UN DDEL. {39}


Coes un ddel, ac hosan ddu,
Fel a'r fel, fel a'r fu;
Fel a'r fu, fel a'r fel,
Ac hosan ddu coes un ddel.


LXLI. Y BRYN A'R AFON.


Y Bryn,--"Igam Ogam, ble'r ei di?"
Yr Afon,--"Moel dy ben, nis gwaeth i ti."
Y Bryn,--"Mi dyf gwallt ar fy mhen i
Cyn unioni'th arrau ceimion di."


LXLII. DECHREU CANU.


Pan es i gynta i garu,
O gwmpas tri o'r gloch,
Mi gurais wrth y ffenestr,
Lle'r oedd yr hogen goch.


LXLIII. SIGLO.


Tri pheth sy'n hawdd eu siglo,--
Llong ar for pan fydd hi'n nofio,
Llidiart newydd ar glawdd helyg,
A march dan gyfrwy merch fonheddig.


LXLIV. ARFER PENLLYN.


Dyma arfer pobl Penllyn,--
Canu a dawnsic hefo'r delyn,
Dod yn ol wrth oleu'r lleuad,
Dwyn y llwdn llwyd yn lladrad.


LXLV. DILLAD NEWYDD.


Caf finnau ddillad newydd
O hyn i tua'r Pasg,
Mi daflaf rhain i'r potiwr,
Fydd hynny fawr o dasg;
Caf wedyn fynd i'r pentre,
Fel sowldiwr bach yn smart,
A phrynnaf wn a chledde,
I ladd 'rhen Fonipart.


LXLVI. LLE RHYFEDD.


Eglwys fach Pencarreg,
Ar ben y ddraenen wen;
A chlochdy mawr Llanbydder
Yn Nheifi dros ei ben.


LXLVII. SEL WIL Y PANT.


Pan oedd y ci ryw noson,
Yn ceisio crafu'r crochon,
'Roedd Wil o'r Pant, nai Beti Sian,
Yn cynnal bla'n 'i gynffon.


LXLVIII. CARIO CEILIOG.


Twm yr ieir aeth lawr i'r dre,
A giar a cheiliog gydag e;
Canodd y ceiliog,--"Go-go-go";
Gwaeddodd Twm,--"Halo! Halo!"


LXLIX. FE DDAW.


Fe ddaw Gwyl Fair, fe ddaw Gwyl Ddewi,
Fe ddaw'r hwyaden fach i ddodwy.


C. CEL BACH, CEL MAWR.


Hei, gel bach, tua Chaerdydd,
'Mofyn pwn o lestri pridd;
Hei, gel mawr, i Aberhonddu,
Dwmbwr dambar, llestri'n torri.


CI. I'R DRE.


Gyrru, gyrru, drot i'r dre,
'Mofyn bara cann a the.


CII. I FFAIR HENFEDDAU.


Gyrru, gyrru, i ffair Henfeddau,
'Mofyn pinnau, 'mofyn 'falau.


CIII. I FFAIR Y RHOS.


Gyrru, gyrru, i ffair y Rhos;
Mynd cyn dydd a dod cyn nos.


CIV. I FFAIR Y FENNI.


Gyrru, gyrru, i ffair y Fenni;
'Mofyn cledd i ladd y bwci.


CV. CEL BACH DEWR.


Welwch chwi cel bach
Yn ein cario ni'n dau?
Mynd i ochor draw'r afon
Gael eirin a chnau.


CVI. CEFFYL JOHN JONES.


Mam gu, mam gu, dewch maes o'r ty,
Gael gweld John Jones ar gefn y ci.


CVII. MARI.


Mari lan, a Mari lon,
A Mari dirion doriad,
Mari ydyw'r fwyna'n fyw,
A Mari yw fy nghariad;
Ac onid ydyw Mari'n lan,
Ni wiw i Sian mo'r siarad.


CVIII. TROT, TROT.


Trot, trot, tua'r dre,
'Mofyn pwn o lestri te;
Trot, trot, tua'r dre,
I mofyn set o lestri te;
Galop, galop, tua chartre,
Torri'r pwn a'r llestri'n gate.


CIX. FFIDIL A FFON.


Mari John, ffidil a ffon,
Cyllell a bilwg i chware ding dong.


CX. ENNILL.


Sion a Siani Siencyn,
Sy'n byw yn sir y Fflint;
Sian yn ennill chweugain,
A Sion yn ennill punt.


CXI. DYNA'R FFORDD.


Dafi Siencyn Morgan,
Yn codi'r don ei hunan;
A'i isaf en e nesa i fiwn,
A dyna'r ffordd i ddechre tiwn.


CXII. ROBIN A'R DRYVV.


Robin goch a'r Dryw bach
Yn fy nghuro i fel curo sach;
Mi godais innau i fyny'n gawr,
Mi drewais Robin goch i lawr.


CXIII. Y JI BINC.


Ji binc, ji binc, ar ben y banc,
Yn pwyso hanner cant o blant.


CXIV. Y FRAN.


Shinc a Ponc a finne
Yn mynd i ffair y pinne;
Dod yn ol ar gefn y fran,
A phwys o wlan am ddime.


CXV. ROBIN GOCH.


Robin goch ar ben y rhiniog,
Yn gofyn tamaid heb un geiniog;
Ac yn dwedyd yn ysmala,--
"Mae hi'n oer, mi ddaw yn eira."


CXVI. JAC Y DO.


Si so, Jac y Do,
Dal y deryn dan y to,
Gwerthu'r fuwch a lladd y llo,
A mynd i Lunden i roi fro;
Dene diwedd Jac y Do.


CXVII. DAWNS.


Y dyrnwr yn dyrnu,
Y ffidil yn canu;
A Robin goch bach
Yn dawnsio'n y beudy.


CXVIII. MYND I GARU.


Rhowch imi fenthyg ceffyl,
I fyned dros y lan,
I garu'r ferch fach ifanc
Sy'n byw 'da 'i thad a'i mham;
Ac oni ddaw yn foddus,
A'i gwaddol gyda hi,
Gadawaf hi yn llonydd,
Waith bachgen pert wyf fi.


CXIX. FY EIDDO.


Mae gennyf dy cysurus,
A melin newydd dwt,
A chwpwrdd yn y gornel,
A mochyn yn y cwt.


CXX. SEN I'R GWAS.


Y llepyn llo a'r gwyneb llwyd,
Ti fyti fwyd o'r goer;
Pe torrit gwys fel torri gaws,
Fe fyddai'n haws dy ddiodde.


CXXI. PRUN?


Dic Golt a gysgodd yn y cart,
Fe'i speiliwyd o'i geffyle;
A phan ddihunodd, holi wnai,--
"Ai Dic wyf fi, ai nage?
Os Dic wyf fi, ces golled flin,--
Mi gollais fy ngheffyle;
Ac os nad Dic, 'rwy'n fachgen smart,
Enillais gart yn rhywle."


CXXII. DAMWAIN.


Shigwti wen Shon-Gati,
Mae crys y gwr heb olchi,
Fe aeth yr olchbren gyda'r nanf,
A'r wraig a'r plant yn gwaeddi.


CXXIII. COED TAN.


Gwern a helyg
Hyd Nadolig.
Bedw, os cair,
Hyd Wyl Fair;
Cringoed caeau
O hynny hyd Glamai;
Briwydd y fran
O hynny ymlaen.


CXXIV. FFAIR PWLLHELI.


Aeth fy Ngwen i ffair Pwllheli,
Eisio padell bridd oedd arni;
Rhodd am dani saith o sylltau,
Cawswn i hi am dair a dimau.


CXXV. BORE GOLCHI.


Aeth fy Ngwen ryw fore i olchi,
Eisio dillad glan oedd arni;
Tra bu Gwen yn 'mofyn sebon,
Aeth y dillad hefo'r afon.


CXXVI. BORE CORDDI.


Aeth fy Ngwen ryw fore i gorddi,
Eisio menyn ffres oedd arni;
Tra bo Gwen yn 'mofyn halen,
Aeth y ci a'r menyn allan.


CXXVII. SEREN DDU.


Seren ddu a mwnci,
Sion y gof yn dyrnu,
Modryb Ann yn pigo pys,
A minnau'n chwys dyferu.


CXXVIII. BENTHYG LLI.


Si so gorniog,
Grot a pheder ceiniog,
Un i mi, ac un i chwi,
Ac un i'r dyn,
Am fenthyg y lli gorniog.


CXXIX. LLAWER O HONYNT.


Ceiliog bach y Wyddfa
Yn canu ar y bryn,
Hwyaid Aber Glaslyn
Yn nofio ar y llyn;
Gwyddau Hafod G'regog
Yn gwaeddi "wich di wach,"
A milgwn Jones Ynysfor
Ar ol y llwynog bach.


CXXX. LLE MAE PETHAU.


Mae yn y Bala flawd ar werth,
Mae'n Mawddwy berth i lechu,
Mae yn Llyn Tegid ddwr a gro,
Mae'n Llundain o i bedoli;
Ac yng Nghastell Dinas Bran
Mae ffynnon lan i ymolchi.


CXXXI. HEN LANC.


Briodi di?
Na wnaf byth!
Wyt ti'n siwr?
Ydw'n siwr.

Hen lanc yn byw fy hunan
Ydwyf fi;
Yn meddu cwrs o arian,
Ydwyf fi;
Yn meddwl am briodi?
Priodi, na wnaf byth;
Waeth beth fydd gennyf wedyn,
Ond poenau lond fy nyth.


CXXXII. CARU FFYDDLON.


Mae nhw'n dwedyd ac yn son
Mod i'n caru yn sir Fon;
Minne sydd yn caru'n ffyddlon
Dros y dwr yn sir Gaernarfon.


CXXXIII. CARU YMHELL.


Caru yng Nghaer, a charu yng Nghorwen,
Caru yn Nyffryn Clwyd a Derwen;
Caru 'mhellach dros y mynydd,
Cael yng Nghynwyd gariad newydd.


CXXXIV. ELISABETH.


Elisabeth bach, a briodwch chwi fi?
Dyma'r amser gore i chwi;
Tra bo'r drym yn mynd trwy'r dre,
Tra bo'ch calon bach yn ei lle.


CXXXV. SHONTYN.


Shontyn, Shontyn, y gwr tynn;
Clywed y cwbl, a dweyd dim.


CXXXVI. GLAW.


Mae'n bwrw glaw allan,
Mae'n hindda'n y ty,
A merched Tregaron
Yn chwalu'r gwlan du.

Pages:
1 | 2 | 3